
Memory Boxes
Dyluniad pwrpasol, yn union i chi! Ni'n gweithio gyda thema o'ch dewis ac yn creu blwch atgofion sy'n unigryw i chi.
Rydyn ni am sicrhau bod eich eitem gorffenedig yn union fel yr oeddech chi wedi'i ddychmygu! Cyn dechrau creu, byddwn ni'n cael sgwrs gyda chi i drafod eich syniadau, edrych ar y dyluniad a sicrhau eich bod chi'n gwbl hapus gyda phob manylyn. Gall hyn fod drwy e-bost neu alwad fideo – pa bynnag ffordd sydd fwyaf cyfleus i chi!
Gan fod pob darn yn unigryw, bydd yr amser sydd ei angen i'w greu yn amrywio yn dibynnu ar manylder y dyluniad. Byddwn ni'n trafod hyn gyda chi wrth fynd ymlaen, fel eich bod chi'n gwybod beth i'w ddisgwyl.
Rydyn ni am sicrhau eich bod chi’n gwbl hapus gyda’ch cynnyrch gorffenedig, felly byddwn ni’n gweithio gyda chi i sicrhau bod pob manylyn yn union fel rydych chi ei eisiau!
Tua: Lled:25cm x Hyd:20cm x Dyfnder:10cm
Mae pob eitem yn cael ei gwneud yn ôl archeb, sy'n golygu nad oes dau yn union yr un fath. Gall eich cynnyrch amrywio ychydig o'r lluniau - dyna sy'n ei wneud yn unigryw i chi!
